SL(6)356 – Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) 2023
Cefndir a diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliadau caffael cyhoeddus amrywiol yn y Deyrnas Unedig at ddiben rhoi dau Gytundeb Masnach Rydd y mae’r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo iddynt ar waith, un ag Awstralia (“CMR y DU-Awstralia”) a’r llall â Seland Newydd.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud y diwygiadau cyffredinol a ganlyn i reoliadau caffael cyhoeddus er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ag ymrwymiadau a wneir yn CMR y DU-Awstralia:
· cyflwyno’r rheol, pan na ellir amcangyfrif gwerth caffaeliad, fod y caffaeliad i’w drin fel pe bai ei werth wedi ei bennu ar y trothwy perthnasol ar gyfer y math hwnnw o gaffaeliad (gan gynnwys darpariaeth arbennig ar gyfer sefyllfaoedd pan na ellir amcangyfrif gwerth un neu ragor o lotiau);
· dileu’r posibilrwydd o ddefnyddio hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw neu hysbysiad dangosol cyfnodol fel yr alwad am gystadleuaeth; a
· gwahardd awdurdodau contractio a chyfleustodau rhag terfynu contractau mewn modd sy’n osgoi rhwymedigaethau yn CMR y DU-Awstralia.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol.
Mae'r Rheoliadau yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau datganoledig Cymreig ac maent yn dod i rym ar 26 Mai 2023.
Gweithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.
Mae rheoliadau 2(7) ac (8)(b) o'r Rheoliadau dan sylw yn ceisio hepgor y testun a ganlyn o reoliadau 27(4) a 28(6) o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yn y drefn honno:
“which was not itself used as a means for calling for competition” [ychwanegwyd y pwyslais].
Fodd bynnag, ymddengys mai'r testun perthnasol yn rheoliadau 27(4) a 28(6) sydd i'w hepgor yw:
“which was not itself used as a means of calling for competition”.
2. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.
Mae rheoliadau 4(11)(b)(ii), (15)(a)(ii), (18)(c)(ii), (20)(b) a (22)(b) yn hepgor rheoliadau 52(23)(b), 65(2)(b), 73(5)(b), 91(1)(b) a 105A (3)(b) yn y drefn honno o Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016.
Ym mhob achos, mae'r ddarpariaeth i’w hepgor yn cynnwys is-baragraff a chysylltair ("or" neu "and"). Fodd bynnag, nid yw'r rheoliadau'n darparu ar gyfer hepgor y cysyllteiriau hynny ynghyd â'r is-baragraff perthnasol.
3. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Mae rheoliad 5(2) yn nodi'r amgylchiadau lle bernir bod caffaeliad wedi ei gychwyn at ddibenion y ddarpariaeth drosiannol yn rheoliad 5(1).
Fodd bynnag, nid yw'r rheoliad yn egluro a fwriedir i bob un o’r amgylchiadau penodol a restrir yn is-baragraffau (a)-(c) o baragraff (2) weithredu'n gyfunol, neu fel opsiynau ar wahân, er mwyn i'r ddarpariaeth drosiannol ym mharagraff (1) gael effaith.
Rhinweddau: Craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio, ac yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl i reoliadau cyfatebol gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU. Mae'r Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Rheoliadau hyn yn nodi:
“Diben hyn yw sicrhau bod y newidiadau a wneir gan reoliadau Llywodraeth y DU ar gyfer awdurdodau contractio nad ydynt yn awdurdodau Cymreig datganoledig a'r rhai a wneir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag awdurdodau Cymreig datganoledig, gyda'i gilydd yn arwain at set gydgysylltiedig o ddiwygiadau i'r ddeddfwriaeth gaffael greiddiol bresennol.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r materion technegol a nodwyd.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
17 Mai 2023